#CrowdCymru Prosiect Gwirfoddolwyr Archifau Digidol/Digital Archives Volunteer Project

Glamorgan Archives Cardiff Dockland Community Photographs Collection 3 1

#CrowdCymru Prosiect Gwirfoddolwyr Archifau Digidol/Digital Archives Volunteer Project

Mae #CrowdCymru yn prosiect gwirfoddoli digidol newydd a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n cael ei lansio gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.

 

Bydd yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl ar y platfform torfoli a sefydlwyd eisoes gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, platfform dwyieithog ar-lein sy’n galluogi gwirfoddolwyr i dagio, anodi a disgrifio ffotograffau a dogfennau treftadaeth ddigidol o bell.

Mae gan wasanaethau archifau ledled Cymru filiynau o gofnodion unigryw a straeon arbennig sy’n aros i gael eu darganfod a’u rhannu, ond dim ond ychydig iawn sydd wedi cael eu catalogio ac felly mae’n anodd eu hadnabod a’u darganfod.

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio gwybodaeth unigolion mewn cymunedau ledled Cymru a’r byd i gyfoethogi ein treftadaeth gyfunol er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol – yn lleol, yn genedlaethol, ac yn fyd-eang.

 

Mae partneriaid y prosiect yn bwriadu y bydd amrywiaeth gyffrous o gasgliadau ar gael i wirfoddolwyr eu harchwilio a gweithio arnynt. Yn gynwysedig bydd Ffotograffau Cymuned Dociau Caerdydd, a ddelir yn Archifau Morgannwg. Mae’r rhain yn bortreadau o unigolion a grwpiau, o gymuned dociau Caerdydd, a dynnwyd rhwng 1900-1920. Gelwid yr ardal hon yn gyffredinol yn “Tiger Bay” a daeth yn un o gymunedau amlddiwylliannol gyntaf y DU gyda phobl o fwy na 50 o wledydd, gan gynnwys Somalia, Yemen, a gwlad Groeg, wedi ymgartrefu yma erbyn i’r Rhyfel Byd Gyntaf gychwyn, yn gweithio yn y dociau a diwydiannau cysylltiedig.

 

Bydd y prosiect hwn o ddiddordeb mawr i’r rhai sydd bob amser wedi bod eisiau ymwneud â gwirfoddoli gydag archifau ond nad ydynt yn gallu teithio. Rydym yn gwbl ddigidol, y cyfan sydd ei angen arnoch yw mynediad ar-lein, a gallwch gyfrannu cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch!

Os hoffech fod yn rhan o’r prosiect hwn, cysylltwch â ni.

Jennifer Evans

Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol

Email: [email protected]

*Neges ddwyiethog * Bilingual Message, please scroll down for English *

#CrowdCymru is a digital archives volunteer project funded by the National Lottery Heritage Fund and run jointly by Gwent Archives, Glamorgan Archives and Cardiff University Special Collections & Archives.

 

Accessed via the crowdsourcing platform established by the National Library Wales, a bilingual online platform for remote volunteers to tag, annotate and describe the digital heritage collections held within these repositories. Archive services across Wales hold millions of irreplaceable records, but many are only minimally catalogued and therefore difficult to identify and find. This project will harness the knowledge of individuals in communities across Wales and beyond to enrich our collective heritage for the benefit of current and future generations – locally, nationally, and globally.

 

The project partners plan to make available a very exciting variety of collections for volunteers to explore and work on. Included will be the Cardiff Dockland Community Photographs held at Glamorgan Archives. These are portraits of individuals and groups, from the Cardiff dockland community, taken between 1900-1920. This area was commonly known as “Tiger Bay” and became one of the UK’s first multicultural communities with people from over 50 countries, including Somalia, Yemen, and Greece, settled here by the outbreak of the First World War, working in the docks and allied industries.

 

This project will be of great interest to those who have always wanted to become involved volunteering with archives but are unable to travel. We are completely digital, all you need is online access, and you can contribute as much or as little as you like!

 

If you would like to be part of this project, please get in touch.

 

Jennifer Evans

Digital Volunteering Project Officer / Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol

Email: [email protected]

 

 

 

Submit Your Event

Have you got a great event happening in Wales? Want to feature it on BHMWales – Black History Month Wales's online events calendar for free?

Our Past Events

Take a peek at what we have got up to over the last few years. If you have any suggestions about events that you would like to see the Black History Month Wales hold again, then please get in touch.

OUR TWEETS