1 Why was Black History Month established and what is its aim?

Black History Month’s purpose is nicely encapsulated in these words spoken by the former London Mayor Ken Livingstone; “In order to enrich the cultural diversity of the Greater London area, it is imperative that Londoners know more about African influences on medieval and renaissance European music so that accepted ideas about European music is changed. Despite the significant role that Africa and its Diaspora have played in the world civilization since the beginning of time, Africa’s contribution has been omitted or distorted in most history books.”

2 When was Black History Month set up in the UK and by whom?

Akyaaba Addai Sebbo is widely regarded as the person who set up Black History Month in the UK. Addai worked with Ken Livingstone at the Greater London Council (GLC) as co-ordinator of Special Projects. The first event was held on 1st October 1987, when the GLC hosted Dr Maulana Karenga from the US to mark the contributions of Black people throughout history. Addai then drew up a plan to recognise the contributions of African, Asian and Caribbean people to the economic, cultural and political life in London and the UK. Since 1987 as part of African Jubilee Year, other boroughs began to formally institute this as Black History Month in the UK.

3 What form do events take and where are they held?

Initiatives take place across the UK with voluntary groups, local authorities, primary care trusts, museums and libraries often taking a lead in planning events. All projects use the skills and experiences of the local workforce and community in the planning and delivery. Smaller groups do equally good work on limited budgets, e.g. running supplementary schools, which incorporate history, or incorporating the Black History Month theme into existing events. There is always a rich programme of events: storytelling, historical walks, theatrical productions, comedy and panel debates are a few examples, but all have history as an integral part of their purpose.

Some employers, especially local authorities, can earmark specific budgets that groups can apply for at the beginning of each financial year. Other councils pick up and absorb publicity or venue hire costs in some cases.

4 If Black History Month derives from the US, why and when was it set up there?

Carter G Woodson initiated the Negro History Week in 1926, which then became Black History Month. He chose February because the birthdays of the two influential figures – Abraham Lincoln, US president and Frederick Douglas – who he believed to have impacted on the conditions of the “Negro” fell in February.

The late African-American writer, John Hernik Clarke wrote: ‘If we are to change tomorrow, we are going to have to look back with some courage, and warm our hands on the revolutionary fires of those who came before us.’ This quote was a catalyst for Addai’s plans at the GLC in 1987.

5 What are the dates for Black History Month and why October?

Black History Month runs throughout the month of October.

There has long been concern about the experience of black children in the UK, and this was a key factor in setting October as the Black History Month. It is at the beginning of a new academic year and can instil pride and identity into young black learners.

October is also a period of tolerance and reconciliation in African culture. Black history is therefore a reconnection with the African source, hence the Black History Month symbol of Sankofa – learning from the past – with the benefit of hindsight.

There are more events run outside of this period from August – November and are often referred to as Black Heritage Season

6 Who celebrates Black History Month?

Black History Month is open to participation by everyone and is ideally developed, delivered and managed as an educational and historical awareness experience by Black people – African, Asian and Caribbean heritage – and should be shared by everyone as world history.

7 Who runs Black History Month – is one official body behind it?

There is no one official body behind Black History Month. However, leading political figures like Ken Livingstone, the Mayor of London, still put on some of the biggest events and have set a standard while also providing support for other bodies to do the same.

8 Why do Black people need a history month?

In an ideal world, the month would not be necessary, because educational establishments and the national curriculum would fully recognise and appreciate the contribution of black people throughout history. Sadly that is not the case.

The Black community uses this history month as an opportunity to share with the world its vast contributions: a time to demonstrate pride in its creativity, respect for its intellectual prowess and a celebration of its cultural identity which is far too often misrepresented, when it is not being ignored, in the mainstream.

9 Is there a Black History Month magazine, where can I get it?

There are three magazines in existence these are available free from libraries across the UK. See also https://www.black-history-month.co.uk. There is also Black History 365 which is linked to the website and published with Smaart Publications the award winning newspaper Black History 365 comes out twice a year.

10 Is Black History Month recognised by the government?

Black History Month is recognised by the government and many MPs get involved in hosting and chairing events and speaking at launches, but the new Tory Liberal coalition’s position is yet to be fully confirmed. Nevertheless, there’s always value in asking your local politicians to support your initiatives.

11 How has BHM grown?

BHM events have grown to over 6,000 events across the UK.

CWESTIYNAU A OFYNNIR FWYAF:

1 Pam sefydlwyd Mis Hanes Pobl Dduon a beth yw ei nod?

Mae’r geiriau hyn gan gyn-Faer Llundain Ken Livingstone yn crisialu pwrpas Mis Hanes Pobl Dduon: “Er mwyn cyfoethogi amrywiaeth ddiwylliannol ardal Llundain, mae’n hanfodol i Lundeinwyr wybod mwy am ddylanwadau Affricanaidd ar gerddoriaeth Ewrop yn y canol oesoedd a’r Dadeni er mwyn gallu newid yr hanes a dderbynnir yn gyffredinol Er gwaethaf pwysigrwydd Affrica a’i Diaspora i wareiddiad y byd ers dechrau amser, mae cyfraniad Affrica wedi ei hepgor neu ei wyrdroi yn y rhan fwyaf o lyfrau hanes.”

2 Pryd sefydlwyd Mis Hanes Pobl Dduon ym Mhrydain, a phwy wnaeth hynny?

Mae Akyaaba Addai Sebbo yn cael ei ystyried fel y person a sefydlodd Mis Hanes Pobl Dduon ym Mhrydain. Roedd Addai’n gweithio gyda Ken Livingstone yng Nghyngor Llundain Fwyaf (GLC) fel cydlynydd Prosiectau Arbennig. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ar 1 Hydref 1987, pan groesawodd y Cyngor Dr Maulana Karenga o America i nodi cyfraniadau pobl Dduon trwy hanes. Yna lluniodd Addai gynllun i gydnabod cyfraniadau pobl o dras Affricanaidd, Asiaidd a Charibïaidd i fywyd economaidd, diwylliannol a gwleidyddol yn Llundain a gweddill Prydain. Ers 1987 fel rhan o’r Flwyddyn Jiwbilî Affricanaidd, dechreuodd bwrdeistrefi eraill sefydlu hyn yn ffurfiol fel Mis Hanes Pobl Dduon ym Mhrydain.

3 Pa ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal, a phryd?

Mae ‘na fentrau ledled Prydain, a bydd grwpiau gwirfoddol, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau gofal sylfaenol, amgueddfeydd a llyfrgelloedd yn aml yn cymryd yr awenau wrth gynllunio digwyddiadau. Mae pob prosiect yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd y gweithlu a’r gymuned lleol wrth gynllunio a chyflawni. Mae grwpiau llai yn gwneud gwaith llawn cystal ar gyllidebau llai, e.e. rhedeg ysgolion ategol, sy’n ymgorffori hanes neu thema Mis Hanes Pobl Dduon yn y digwyddiadau sydd eisoes yn bodoli. Mae yna bob tro raglen gyfoethog o ddigwyddiadau: chwedleua, teithiau cerdded hanes, dramâu, comedi a dadleuon panel i nodi dim ond ychydig, ond mae hanes yn rhan ganolog o bwrpas pob un ohonynt.

Gall rhai cyflogwyr, yn enwedig awdurdodau lleol, glustnodi cyllidebau penodol y gall grwpiau wneud cais amdanynt ar ddechrau pob blwyddyn ariannol. Bydd cynghorau eraill yn talu, neu ddim yn codi am, gostau cyhoeddusrwydd neu, mewn rhai achosion, costau hurio ystafelloedd.

4 Os yw Mis Hanes Pobl Dduon yn deillio o’r Unol Daleithiau, pam a phryd cafodd ei sefydlu yno?

Carter G Woodson sefydlodd Wythnos Hanes y Negro ym 1926, a ddaeth yn Fis Hanes Pobl Dduon. Dewisodd fis Chwefror oherwydd bod pen-blwyddi dau ddyn dylanwadol – Abraham Lincoln, arlywydd yr UD, a Frederick Douglas – roedd yn credu eu bod wedi cael effaith ar amodau byw y “Negro” yn y mis hwnnw.

Ysgrifennodd yr awdur o Americanwr Affricanaidd John Henrik Clarke: “Os ydym am newid yfory, rhaid bydd edrych yn ôl gyda chryn ddewrder, a chynhesu ein dwylo ar danau chwyldroadol y rhai a’n rhagflaenodd.’ Roedd y dyfyniad hwn y sbardun i gynlluniau Addai yn y GLC ym 1987.

5 Beth yw dyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon a pham mis Hydref?

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn rhedeg gydol mis Hydref.

Mae profiad plant duon ym Mhrydain yn destun pryder ers cryn amser, ac roedd hyn yn ffactor allweddol wrth wneud mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon. Mae’n ddechrau blwyddyn academaidd newydd a gall feithrin balchder a hunaniaeth mewn dysgwyr duon ifainc.

Mae mis Hydref hefyd yn gyfnod o oddefgarwch a chymodi mewn diwylliannau Affricanaidd. Felly mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ffordd o ailgysylltu â gwreiddiau Affricanaidd, a dyma arwyddocâd symbol Mis Hanes Pobl Dduon, Sankofa – dysgu o’r gorffennol, synnwyr trannoeth.

Mae rhagor o ddigwyddiadau y tu allan i’r cyfnod hwn, rhwng Awst a Thachwedd, a chyfeirir at y rhain fel rhan o Dymor Treftadaeth Pobl Dduon.

6 Pwy sy’n dathlu Mis Hanes Pobl Dduon?

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn agored i bawb ac yn ddelfrydol, caiff ei ddatblygu, ei gyflawni a’i reoli fel profiad addysgiadol ac o ymwybyddiaeth hanesyddol gan bobl Dduon – o dras Affricanaidd, Asiaidd a Charibïaidd – a dylid ei rannu gan bawb fel rhan o hanes y byd.

7 Pwy sy’n rhedeg Mis Hanes Pobl Dduon – oes un corff swyddogol y tu ôl iddo?

Does dim un corff swyddogol sy’n gyfrifol am Fis Hanes Pobl Dduon. Fodd bynnag, mae gwleidyddion amlwg fel Ken Livingstone, cyn-Faer Llundain, yn dal i gynnal rhai o’r digwyddiadau mwyaf ac wedi gosod safon, ac ar yr un pryd yn rhoi cefnogaeth i gyrff eraill wneud yr un peth.

8 Pam mae angen mis hanes ar bobl Dduon?

Mewn byd delfrydol, ni fyddai angen y mis: byddai sefydliadau addysg a’r cwricwlwm cenedlaethol yn cydnabod yn llawn ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl dduon ar hyd hanes. Ynn anffodus, nid felly y mae.

Mae’r gymuned Ddu yn defnyddio’r mis hanes hwn fel cyfle i rannu gyda gweddill y byd ei chyfraniadau maith: amser i ddangos balchder yn ei chreadigrwydd, parch at ei gallu deallusol a dathliad o’i hunaniaeth ddiwylliannol sydd mor aml yn cael ei chynrychioli’n anghywir yn y brif ffrwd – pan nad yw’n cael ei hanwybyddu.

9 Oes yna gylchgrawn Mis Hanes Pobl Dduon, ble alla i ei gael?

Mae tri chylchgrawn ar gael ac mae’r rhain ar gael am ddim o lyfrgelloedd ledled Prydain. Gweler hefyd www.black-history-month.co.uk. Hefyd, mae Black History 365 sy’n gysylltiedig â’r wefan ac yn cael ei gyhoeddi gan Smaart Publications. Mae’r papur newydd arobryn Black History 365 yn ymddangos dwywaith y flwyddyn.

10 Ydy’r llywodraeth yn cydnabod Mis Hanes Pobl Dduon?

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cael ei gydnabod gan y llywodraeth ac mae llawer o ASau yn cynnal neu’n llywio digwyddiadau ac yn annerch lansiadau. Serch hynny, mae bob amser yn werth gofyn i’ch gwleidyddion lleol gefnogi eich mentrau.

11 Sut mae MHPDd wedi tyfu?

Mae digwyddiadau MHPDd wedi tyfu i fwy na 6,000 o ddigwyddiadau ledled Prydain.

Byddwch yn Gymdeithasol, Rhannwch.